Urban Living Partnership

Change text size:

A- A A+

Cymraeg

Bydd y Cynghorau Ymchwil/Urban Living Partnership Innovate UK yn defnyddio cryfder ymchwil ac arloesi yn y DU i helpu dinasoedd i wireddu gweledigaeth o fyw’n iach, yn ffyniannus ac yn gynaliadwy.

  • Bydd yr Urban Living Partnership yn gweithio gyda dinasoedd y DU i nodi, deall a mynd i’r afael â heriau a chyfleoedd allweddol.
  • Bydd yn dod ag arbenigedd ymchwil traws-ddisgyblaethol, llywodraeth leol, asiantaethau cyflenwi gwasanaethau, cymunedau trefol a busnes arloesol ynghyd o fewn dinasoedd unigol i gyd-gynhyrchu a phrofi atebion ymarferol.
  • Bydd y cyfnod cychwynnol yn cefnogi prosiectau dinasoedd peilot yn y DU i arddangos effaith bosibl y Bartneriaeth.
  • Yr uchelgais yw uwchraddio’r Bartneriaeth i raglen y DU gyda chyrhaeddiad rhyngwladol; gwneud y DU yn arweinydd byd-eang mewn ymchwil ac arloesi trefol, a chefnogi twf trefol cynaliadwy ar gyfer dinasoedd y DU.